William BenjaminSELBY(Wil T'r Allt, Abercych a gynt Gellideg) Yn dawel yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ar ddydd Llun Chwefror 16, 2015, tra yng nghwmni ei deulu, hunodd Wil, T'r Allt, Abercych yn 77 mlwydd oed; priod hoff Nesta a thad annwyl John, Ceinwen a'i phriod Alun, tadcu cariadus Geraint a Briony, Aled a Sarah, brawd parchus Laurence ynghyd a'r diweddar Elsie a Megan, brawd yng nghyfraith Jack a theulu Llain (Blaenwinllan gynt). Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus a Chladdedigaeth yng Nghapel Bryngwenith, Henllan, SA44 5TY ar ddydd Sadwrn Chwefror 21 am 1.30 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymunir tuag at Ward Steffan, Ysbyty Glangwili, trwy law Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiwpâl, Llandysul, SA44 5QH.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William